Arsyllfa Ymfudo Prifysgol Rhydychen yn rhyddhau dadansoddiad cynhwysfawr o’r cyfrifiad yng nghyswllt ymfudwyr yng Nghymru
Cafodd y dadansoddiad cynhwysfawr cyntaf o boblogaeth fudol Cymru ei ryddhau heddiw gan Arsyllfa Ymfudo Prifysgol Rhydychen. Dangosodd fod poblogaeth Cymru a anwyd dramor wedi codi 82% yn y ddegawd ddiwethaf – mwy ar gyfartaledd na’r cynnydd yn Lloegr (61%) a Gogledd Iwerddon (72%), ond llai nag yn yr Alban (93%).
Ym Merthyr Tudful y gwelwyd yr ail gynnydd mwyaf o ran canran ym mhoblogaeth fudol unrhyw ardal neu awdurdod unedol ym Mhrydain Fawr (227%) rhwng 2001 a 2011. Yn yr un cyfnod fe wnaeth poblogaeth ymfudwyr Wrecsam, Abertawe a Chasnewydd fwy na dyblu, gyda phoblogaeth fudol Caerdydd yn cynyddu 99% i 45,967 – poblogaeth fudol sengl fwyaf Cymru.
Fodd bynnag, dengys y proffil fod cyfran y bobl yng Nghymru yn 2011 a anwyd dramor (5.5%) y gyfran leiaf o unrhyw un o wledydd y Deyrnas Unedig – o gymharu â Lloegr: 13.8%, Yr Alban: 7% a Gogledd Iwerddon: 6.6%. 13% oedd cyfartaledd y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. At hyn, roedd poblogaeth fudol Cymru’n gyffredinol yn llai na’r poblogaethau hynny yn wyth o naw rhanbarth cyfrifiad Lloegr (y Gogledd-ddwyrain oedd yr eithriad).
Rhoddwyd hwb i dwf poblogaeth fudol Cymru gyda chynnydd sylweddol (1,163%) yn nifer ei phobl a anwyd yng Ngwlad Pwyl – poblogaeth a gynyddodd o 1,427 yn 2001 i 18,023 yn 2011. Bellach, pobl a anwyd yng Ngwlad Pwyl yw grŵp mudol mwyaf Cymru, ac mae 95% o’r bobl sy’n byw yng Nghymru ac a anwyd yng Ngwlad Pwyl yma ers 2001.
Niferoedd a chyfrannau:
Yn 2011, 3,063,456 oedd cyfanswm poblogaeth breswyl arferol Cymru. Roedd oddeutu 5.5% o’r preswylwyr hyn (167,871) wedi eu geni y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Mae hyn yn gynnydd o 82% ym mhoblogaeth y wlad a anwyd dramor ers 2001.
Yn 2011, roedd gan 41.6% o’r boblogaeth nad oedd wedi ei geni yn y Deyrnas Unedig basbort y Deyrnas Unedig. Pasbort gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig oedd gan 51.6%. Nid oedd gan y gweddill (6.8%) basbort.
Yn 2011, Roedd Cymru yn y nawfed safle o ran nifer y boblogaeth a chyfran o boblogaeth y preswylwyr nad oedd wedi eu geni yn y Deyrnas Unedig, a hynny o ddeg rhanbarth Cymru a Lloegr.
Dosbarthiad rhanbarthol:
Ym Merthyr Tudful (227%) a Wrecsam (168%) y cafwyd y cynnydd mwyaf o ran canran ym mhoblogaeth Cymru nad oedd wedi ei geni yn y Deyrnas Unedig. Roedd y cynnydd hwn yr ail a’r wythfed mwyaf mewn unrhyw ardal yng Nghymru a Lloegr rhwng 2001 a 2011.
I bob pwrpas, dyblodd poblogaeth fudol Caerdydd rhwng 2001 a 2011, a chanddi hi oedd nifer uchaf (45,967) preswylwyr Cymru yn 2011 a’r gyfran uchaf ohonynt (13%) nad oedd wedi eu geni yn y Deyrnas Unedig. Yma, hefyd, oedd cartref 27.4% o boblogaeth fudol Cymru o’i gymharu ag 11.3% o gyfanswm preswylwyr Cymru.
Yn Abertawe yr oedd ail nifer uchaf y preswylwyr a anwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig (17,233), ac yng Nghasnewydd oedd yr ail gyfran uchaf o’r boblogaeth a anwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig (8.5%).
Yn awdurdod unedol Blaenau Gwent yr oedd poblogaeth leiaf y wlad a anwyd dramor (1,502) a’r gyfran isaf o’r boblogaeth (2.2%). Yn Nhorfaen oedd y cynnydd lleiaf o ran niferoedd (651) a chanran (36.3%)
Roedd mymryn dan 11% o’r holl bobl yng Nghymru a anwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig i’w briodoli i bobl a anwyd yng Ngwlad Pwyl, ond nid oedd eu niferoedd yn wastad. Roedd eu cyfran o’r boblogaeth fudol yn llawer uwch mewn rhai ardaloedd, fel Merthyr Tudful (38.5%) ac yn llawer is mewn ardaloedd eraill, fel Bro Morgannwg (3.8%).
Proffiliau ymfudwyr:
Preswylwyr a anwyd yng Ngwlad Pwyl yw’r grŵp mwyaf niferus yng Nghymru o bobl a anwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig (18,023 o breswylwyr) ac yna breswylwyr a anwyd yn Iwerddon (12,175) ac yna India (11,874).
Roedd preswylwyr a anwyd yng Ngwlad Pwyl yn cyfrif am 11% o gyfanswm poblogaeth Cymru a anwyd y tu allan i’r Deyrnas Unedig.
Roedd oddeutu 97% o boblogaeth Cymru’n siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu prif iaith. O’r 2.9% (84,436) nad oedd, roedd 77% yn medru siarad Saesneg yn dda neu’n dda iawn. 4% yn unig oedd yn methu siarad Saesneg o gwbl. Mae’r lefel hon o allu siarad Saesneg fymryn yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Lloegr.
Dywedodd y Dr Carlos Vargas-Silva, yr Uwch Ymchwilydd oedd yn arwain prosiect y cyfrifiad yn yr Arsyllfa Ymfudo ym Mhrifysgol Rhydychen: “Bu cynnydd o 82% ym mhoblogaeth fudol Cymru yn y deng mlynedd rhwng 2001 a 2011.”
“Y newid mwyaf oedd y cynnydd yn y boblogaeth a anwyd yng Ngwlad Pwyl – mae’n fwy nag ugain gwaith yr hyn oedd yn flaenorol, a dyma’r grŵp mudol mwyaf yng Nghymru erbyn hyn. Mae hyn wedi bod yn hynod amlwg ym Merthyr Tudful a welodd yr ail gynnydd mwyaf o ran canran yn ei phoblogaeth fudol ym Mhrydain Fawr.”
“Ond mae’n werth nodi mai gan Gymru y mae’r gyfran leiaf o ymfudwyr yn ei phoblogaeth o holl wledydd y Deyrnas Unedig. Oherwydd i Gymru ddechrau gyda phoblogaeth fudol lawer llai na Lloegr – o ran niferoedd a’i chyfran o’r boblogaeth yn gyffredinol – gall twf llai o ran niferoedd fod yn dwf sylweddol fwy o ran canran. Er gwaethaf hynny, bu cynnydd mawr ym mhoblogaeth fudol Cymru, yn arbennig felly yng Nghaerdydd, Abertawe a Chasnewydd.”
Diwedd